Mae tân wedi cydio mewn bloc o fflatiau yn ardal Notting Hill yng ngorllewin Llundain, ddim ymhell o safle Tŵr Grenfell.
Cafodd Gwasanaeth Tân Llundain eu galw yno am 11.39 bore heddiw (dydd Gwener, Awst 23) ar ôl adroddiadau bod mŵg gyn dod o adeilad ar Darfield Way.
Mae wyth injan dân ac o gwmpas 60 o ymladdwyr tân wedi cael ei galw yno.
Mae’r tân wedi cydio ar falconi ar 12fed llawr yr adeilad, a does neb wedi cael eu hanafu.