Bydd tafarn 200 oed a gafodd ei hachub gan bobol leol, yn ail-agor yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, Awst 23).
Ar ôl bod ar y farchnad am nifer o flynyddoedd, mae Tafarn y Plu, Llanystumdwy bellach wedi cael ei phrynu gan Fenter y Plu, grŵp a fu’n arwain yr ymgyrch i’w hachub.
Un o gyfarwyddwyr y fenter yma yw Tegid Jones, ac mae’n gobeithio am noson agoriadol dda ac yn rhagweld y bydd y dafarn yn llawn.
Llwyddodd Menter y Plu i godi arian trwy sawl ffynhonnell wahanol, ac mae’r Cyfarwyddwr yn pwysleisio eu bod wedi derbyn cefnogaeth o bob math.
“Mae wedi bod yn ymgyrch bositif iawn ar y cyfan,” meddai wrth golwg360. “Rydan ni wedi cael cefnogaeth o bob man – nid jest y gymuned leol ond pob man, ac nid jest efo’r ochr ariannol.
“[Dros y] pythefnos, neu’r tair wythnos, diwethaf [rydym] wedi cael criw da o bobol yn ein helpu ni i glirio’r dafarn. Maen nhw wedi bod yn paentio’r dafarn, yn garddio, ac yn gwneud lot o waith fel hynna.”
“Taro nod”
Mae Tegid Jones yn tynnu sylw at y ffaith mai’r dafarn yw’r unig adeilad o’i fath yn y pentref, ac mae’n awgrymu y bydd yn cadw’r pentref yn fyw am flynyddoedd i ddod.
“Heb os, petai hwn wedi cau fuasai dim byd ar ôl o ran llefydd i fynd i yfed neu fwyta,” meddai. “Rhyw deg blynedd yn ôl roedd yna gaffi wrth ymyl yr afon Dwyfor. Mae hwnna wedi cau.
“Roedd yna siop hefyd ond mae hwnna wedi cau. Tafarn y Plu oedd yr unig peth sylweddol a oedd ar ôl. Ac roedd dim ond yn agored gyda’r nos.
“Felly mae cael rhywbeth fel hyn sydd yn medru agor yn y dydd yn sicr wedi helpu taro nod i gael pethau’n agored yn y pentref.”
Codi arian
Lansiodd Mudiad y Plu eu hapêl am arian ym mis Medi’r llynedd, gan gynnig cyfranddaliadau i’r cyhoedd, a gan osod targed o £80,000.
Bellach mae’r grŵp wedi codi ychydig dros £80,000 trwy gyfranddaliadau, ac wedi derbyn £120,000 o grant benthyciad gan y WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru).
Mae ychydig yn rhagor wedi ei godi trwy grantiau eraill a digwyddiadau, ac yn ôl Tegid Jones, mae “rhan helaeth” o’r arian sydd wedi’i godi wedi mynd tuag at brynu’r dafarn.
Yn ôl y cyfarwyddwr mae bron i 300 wedi cymryd cyfranddaliadau, ac mae’r rheiny’n dod o sawl gwlad wahanol gan gynnwys America, Awstralia a’r Almaen.
Mae’r mudiad, meddai, yn “dal yn annog pobol i fuddsoddi” ac mae cynlluniau yn yr arfaeth i drawsnewid fflat uwch ben y dafarn, ac i’w droi yn ffynhonnell arall o incwm.