Mae dirprwy Brif Weinidog Iwerddon yn dweud fod Brexit heb fargen yn “llawer mwy tebygol” nawr nag erioed o’r blaen.
Wrth gyfeirio at y ‘backtsop’, dywed Simon Coveney na fydd Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd yn cefnu ar ateb i’r ffin ar gyfer “unrhyw fath o addewid” gan Boris Johnson.
Dywed hefyd fod y ffordd y mae llywodraeth gwledydd Prydain yn mynd i’r afael â Brexit yn gwneud ymadawiad heb gytundeb yn llawer mwy tebygol.
“Rwy’n credu y bydd yn cael neges gyson iawn gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd nad yw’r trafodaethau dros y ddwy i dair blynedd diwethaf yn mynd i gael eu gadael yn awr,” meddai Simon Coveney.
“Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd i roi’r sicrwydd a’r eglurhad bod angen i Boris Johnson werthu bargen. Fe fyddwn yn ceisio bod yn ddychmygus ac o gymorth o ran hynny.”
Mae Boris Johnson yn teithio i Berlin heddiw (dydd Mercher, Awst 21) i drafod Brexit gyda Phrif Weinidog yr Almaen, Angela Merkel, cyn mynd i Baris yfory (dydd Iau, Awst 22) i gyfarfod ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.