Mae llysgennad yn swyddfa gwledydd Prydain yn Hong Kong wedi cael 15 diwrnod yn y ddalfa yn ninas Shenzhen yn Tsieina.

Yn ystod briff ar y sefyllfa heddiw (dydd Mercher, Awst 21) dydi llefarydd swyddfa dramor Tsieina, Geng Shuang, ddim wedi cynnig unrhyw reswm tros ddal Simon Cheng Man-kit.

Mae Swyddfa Tramor gwledydd Prydain wedi dweud eu bod yn “hynod o bryderus” am eu llysgennad,  aeth i ddigwyddiad busnes yn Shanzhen ar Awst 8.

Ni ddychwelodd Simon Cheng Man-kit i Hong Kong yn dilyn y cyfarfod hwnnw – er mai ei fwriad oedd gwneud hynny yr un diwrnod.

Pan fethodd â ddychwelyd i’r gwaith, fe hysbysodd ei deulu yr heddlu.

Daw ei ddiflaniad yn dilyn wythnosau o brotestiadau o blaid democratiaeth a sbardunwyd gan fil sydd bellach wedi’i atal byddai wedi caniatáu estraddodi o Hong Kong i mewn i Tsieina.