Mae un o baralympwyr mwyaf llwyddiannus gwledydd Prydain wedi gwadu ymosod yn rhywiol ar ferch mewn gwesty pum seren.
Honnir bod y Ceidwadwr, yr Arglwydd Holmes o Richmond, sy’n bencampwr nofio Paralympaidd, wedi cyffwrdd y ferch mewn gwesty yng nghanol Llundain ar Fawrth 7.
Fe blediodd yr Arglwydd Holmes, sydd yn ddall, yn ddieuog i’r cyhuddiad yn Llys y Goron Southwark fore heddiw (dydd Llun, Awst 19).
Ei enw llawn yw Christopher Holmes a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth gan y Barnwr Jeffrey Pegden QC. Clywodd y llys y bydd barnwr o’r Uchel Lys yn clywed yr achos ac nid oes dyddiad ar gyfer gwrandawiad wedi cael ei bennu eto.
Fe enillodd yr Arglwydd Holmes chwe medal aur yng ngemau Paralympaidd Barcelona yn 1992 a thair yng ngemau Atlanta.
Roedd wedi torri 35 record byd cyn cael swyddi allweddol ym maes chwaraeon a gwleidyddiaeth.