Mae’r cyhoeddiad bod y farchnad anifeiliaid yn Aberteifi am ddod i ben ymhen tair wythnos yn “siom, er nad yn syndod”, yn ôl maer y dref.
Yn ôl y cwmni arwerthu, JJ Morris, bydd y farchnad olaf yn cael ei chynnal ar Fedi 9.
Maen nhw’n dweud bod costau cynyddol, prinder anifeiliaid ac achosion o’r diciau yn lleol yn ffactorau tros gau.
Mae lle i gredu na fydd y penderfyniad yn effeithio ar farchnadoedd eraill yr arwerthwyr yn Hendy-gwyn ar Daf a Chrymych.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd wedi mynegi eu siom tros gau’r farchnad yn Aberteifi.
Dirywiad graddol
Yn ôl Maer Aberteifi, Shan Williams, mae’r farchnad yn Aberteifi wedi bod yn dirywio’n raddol oddi ar flwyddyn clwy’r traed a’r genau yn 2001.
“Dyw e ddim yn rhywbeth sydd wedi dod ar unwaith i Aberteifi,” meddai wrth golwg360. “Mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn adeiladu oddi ar y foot and mouth.
“Dyw e ddim wedi bod yr un peth ers blynydde mowr. Fel wêdd hi, roedd dydd Llun yn Aberteifi yn ddiwrnod mowr.”
Cyfle am fuddsoddiad?
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae tref Aberteifi wedi cael ei gweddnewid, yn enwedig ers i’r castell gael ei adnewyddu a’i agor i’r cyhoedd yn 2015.
Yn ôl Shan Williams, mae angen buddsoddiad ar ochr ddeheuol y dref erbyn hyn, ac mae’n gobeithio y byddai cau marchnad anifeiliaid Aberteifi yn “gyfle” am hynny.
“Os mae’n rhaid i’r mart gau, sy’n siomedig iawn i’r dref, mae’n gyfle nawr i ddatblygu’r ochr yna o’r afon i mewn i rywbeth arall fydd yn tynnu arian i mewn i’r dref,” meddai.
“Ergyd arall”
Yn ôl Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Thomas, mae cau’r farchnad yn “ergyd arall” i’r diwydiant amaeth, a daw wedi’r cyhoeddiad bod y farchnad anifeiliaid yn y Bontfaen ar fin cau hefyd.
“Mae gan yr arwerthwyr resymau dilys tros gau’r safle ac ni fydd yn benderfyniad rhwydd iddyn nhw,” meddai.
“Mae cau unrhyw farchnad leol yn cael gwared ar ganolbwynt pwysig i’r gymuned, ac yn gorfodi ffermwyr i deithio mwy o bellter er mwyn gwerthu eu stoc.
“Yn anffodus, dyma arwydd o’r amseroedd a dw i’n pryderu tros ddyfodol rhai o’r marchnadoedd anifeiliaid llai.”