Mae mwy na 100 o aelodau seneddol wedi llofnodi llythyr yn galw am yr hawl i alw’r Senedd yn ei hôl ac iddi aros yn ei lle tan Hydref 31, dyddiad ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn eu plith mae’r cyn-weinidogion Dominic Grieve a’r Cymro Guto Bebb, wrth iddyn nhw ddweud bod “poblyddiaeth” yn arwain y trafodaethau Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Mae holl aelodau seneddol Plaid Cymru a nifer o aelodau seneddol Llafur yng Nghymru wedi llofnodi’r llythyr.
Y llythyr
Mae’r llythyr yn dweud bod y Senedd wedi cael ei galw’n ei hôl “sawl gwaith bob degawd am ystod eang o resymau gwleidyddol, diogelwch ac economaidd”.
Mae’n rhybuddio bod gwledydd Prydain “ar drothwy argyfwng economaidd” yn sgil y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a fyddai’n effeithio ar feddyginiaeth, bwyd, yr economi, swyddi, cyllid, gwasanaethau cyhoeddus, prifysgolion a diogelwch economaidd hirdymor.
“Rydym yn wynebu argyfwng cenedlaethol, a rhaid galw’r Senedd yn ei hôl nawr ym mis Awst ac eistedd yn barhaol tan Hydref 31, fel y gall lleisiau’r bobol gael eu clywed, a bod yna graffu cywir ar eich llywodraeth,” meddai’r llythyr wrth Boris Johnson.
“Ddylai democrat go iawn ddim ofni’r fath graffu. Y cwestiwn yw a ydych chi’n [ddemocrat].”
Llywodraeth dros dro?
Yn y cyfamser, mae rhagor o bobol yn wfftio’r posibilrwydd o sefydlu llywodraeth dros dro gyda Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, wrth y llyw.
Syr Oliver Letwin yw’r diweddaraf i wrthod yr awgrym, gan ddweud nad yw’n ffyddiog y byddai’n derbyn mwyafrif er mwyn cael derbyn swydd y prif weinidog.
Ond mae’n dweud bod rhaid cael sgwrs yn San Steffan er mwyn sicrhau sefyllfa Brexit heb gytundeb.
Mae Ken Clarke, Ceidwadwr blaenllaw arall, eisoes wedi dweud y byddai’n barod i arwain llywodraeth dros dro er mwyn osgoi Brexit heb gytundeb.
Mae’n ymddangos bod ganddo fe gefnogaeth Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd hefyd yn crybwyll enw Harriet Harman o’r Blaid Lafur.