Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth plismon yn Berkshire wedi cael 36 awr ychwanegol i holi 10 o ddynion a bechgyn sy’n cael eu cadw yn y ddalfa.
Fe fu farw Pc Andrew Harper, 28 oed, o anafiadau lluosog ar ôl cael ei lusgo gan gerbyd ar yr A4 rhwng Reading a Newbury wrth ymchwilio i ladrad nos Iau ger pentref Sulhamstead.
Cafodd y 10 o fechgyn a dynion rhwng 13 a 30 oed eu harestio o fewn awr i’r digwyddiad.