Mae’r cyn-dwrnai cyffredinol Dominic Grieve ymosod yn hallt ar y Prif Weinidog gan ddweud mai ei rethreg ef sy’n gyfrifol am fygythiadau i’w ladd.

Wrth siarad ar raglen Good Morning Scotland y bore yma, meddai:

“Mae gen i eisiau achub y Blaid Dorïaidd rhag Mr Johnson a’i debyg – mae’n ei herwgipio ac yn mynd â hi i gyfeiriadau sy’n peri pryder mawr imi,” meddai.

“Dw i ddim yn hoffi’r rhethreg, sy’n arwain yn uniongyrchol at y bygythiadau i’m lladd dw i’n eu cael.

“Mae’n rhaid inni dderbyn fod gennym wlad ranedig iawn – a dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n mynd i ddatrys y broblem gyda’r math o bopiwlyddiaeth curo’r drwm y mae’n ei arddel.

“Mae’n ymddwyn fel demagog.”

‘Iaith emosiynol’

“Os yw gwleidyddion blaenllaw yn defnyddio iaith emosiynol fel ‘collaborator’ neu ‘fradwyr’, mae Aelodau Seneddol ar unwaith yn derbyn negeseuon e-bost ffiaidd gan aelodau’r cyhoedd, gyda rhai ohonyn nhw’n cynnwys bygythiadau i ladd,” meddai Dominic Grieve.

“Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers amser maith, ond fe fyddwn i’n disgwyl i Brif Weinidog Ceidwadol gollfarnu hyn yn llwyr a hefyd sicrhau ei fod, yn ei iaith a’i rethreg ei hun, yn osgoi unrhyw beth a all annog hyn.

“Ac mae’n gwbl amlwg nad yw am wneud hynny. Dw hynny’n ddim syndod imi yn wyneb fy asesiad fy hun ohono.”

Guto Bebb o’r un farn

Mae sylwadau’r cyn-dwrnai cyffredinol yn ategu’r hyn a ddywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy yn gynharach yn yr wythnos.

Dywedodd Guto Bebb fod defnydd y Prif Weinidog o’r gair ‘collaboration’ yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd yn gwbl wenwynig a gwarthus.

“Dw i’n meddwl y dylai Boris Johnson feddwl yn ofalus iawn cyn defnyddio iaith fel hyn pan mae’n gwybod yn iawn y bygythiadau mae pobl yn eu derbyn,” meddai.

“Dydi staff fy swyddfa ddim yn gallu gwneud eu gwaith heb fesurau diogelwch. Mae system ddiogelwch yn fy nghartref.

“Mae i Boris Johnson gyhuddo pobl fel fi o ‘collaboration’ yn iaith warthus gan ddyn a ddylai wybod yn well. Mae’n annheilwng o’r swydd mae’n ei dal ac mae’n profi unwaith eto nad ydi’r dyn yn ffit i fod yn Brif Weinidog.”