Mae gwrthryfelwyr Houthi yn Yemen wedi hawlio cyfrifoldeb am roi maes olew a nwy anferth yn Sawdi Arabia ar dân mewn ymosodiad drôn.
Mae’r maes, Shaybah, yn cynhyrchu tua miliwn o fareli o olew crai y dydd.
Mae wedi’i leoli yn Chwarter Gwag Penrhyn Arabia, sy’n fôr o dywod lle mae’r tymheredd yn codi’r rheolaidd i 50 gradd Celsius.
Mae’r safle ychydig filltiroedd o’r ffin â’r Emiradau Arabaidd Unedig a thua 750 o filltiroedd o diriogaeth sydd yn nwylo gwrthryfelwyr yn Yemen. Mae’r ymosodiad wedi dangos pa mor bell mae drôns yr Houthis yn gallu taro.