Mae athrawon yn Hong Kong yn gorymdeithio i gartref swyddogol arweinydd y ddinas wrth i’r protestio barhau yno.

Wrth gludo arwyddion yn galw am ‘Amddiffyn y genhedlaeth nesaf’, dywed yr athrawon fod arnyn nhw eisiau dangos eu cefnogaeth i’r protestwyr, sydd â llawer o fyfyrwyr yn eu plith.

Maen nhw’n galw ar y llywodraeth i ymateb i ofynion y protestwyr, a rhwystro trais yr heddlu yn eu herbyn.

“Rydym yma oherwydd trais parhaus gan y llywodraeth a’r heddlu,” meddai un o’r athrawon. “Teimlwn fod gennym yr hawl i amddiffyn ein myfyrwyr.”

10 wythnos o brotestio

Ar ôl 10 wythnos o brotestiadau, does dim arwydd fod yr anghydfod yn nes at gael ei ddatrys.

Yn ogystal â gorymdaith gan y protestwyr, mae gwrth-rali hefyd yn cael ei gynnal heddiw i gefnogi’r llywodraeth.

Fe fydd rali arall yfory gan grŵp sy’n ymgyrchu dros ddemocratiaeth ac sydd wedi trefnu tair gorymdaith anferth trwy ganol Hong Kong ers mis Mehefin.

Mae galwadau’r mudiad yn galw am ymddiswyddiad arweinydd y ddinas, Carrie Lam, etholiadau democrataidd ac ymchwiliad annibynnol i ddefnydd yr heddlu o rym.

Mae heddlu arfog parafilwrol China wedi bod yn cynnal ymarferion yr wythnos yma dros y ffin yn Shenzen, gan arwain at amheuon y gallan nhw gael eu hanfon i mewn i ormesu’r protestwyr.

Dywed heddlu Hong Kong fodd bynnag eu bod nhw’n gallu ymdrin â’r protestiadau eu hunan er mwyn cadw cyfraith a threfn.