Mae dyn a laddodd wyth o bobol, gan gynnwys pump o blant, mewn tân 17 o flynyddoedd yn ôl wedi cael ei garcharu am o leiaf 23 o flynyddoedd.

Bu farw wyth aelod o’r un teulu yn dilyn anghydfod â theulu Shahid Mohammed, 37, oedd wedi ymosod arnyn nhw gyda chymorth nifer o ddynion eraill.

Roedd y teulu’n cysgu yn eu cartref yn Huddersfield pan gafodd bomiau petrol eu taflu at yr adeilad, a chafodd petrol ei arllwys trwy’r drws a’i danio.

Pan aeth nifer o bobol gerbron llys mewn perthynas â’r achos yn 2003, roedd Shahid Mohammed ar ffo ym Mhacistan ar ôl torri amodau ei fechnïaeth.

Cafodd ei estraddodi a’i ddychwelyd i Loegr y llynedd.

Achos llys

Clywodd Llys y Goron Leeds fod Shahid Mohammed wedi bod yn ffraeo â Saud Pervez, cariad ei chwaer, cyn y tân.

Mae lle i gredu mai Mohammed Ateeq-Ur-Rehman, un o’r rhai fu farw, oedd wedi cael ei dargedu gan y tân, gan ei fod e wedi annog y berthynas.

Cafwyd Shahid Mohammed yn euog o wyth achos o lofruddio, ac un achos o gynllwynio i roi eiddo ar dân gyda’r bwriad o beryglu bywydau.

Bu farw Ateeq-Ur-Rehman (18), ei chwaer Nafeesa Aziz (35) a’i phlant Tayyaba Batool (13), Rabina Batool (10), Ateeqa Nawaz, pump, Aneesa Zawaz, dwy, a Najeebah Nawaz, chwe mis oed.

Bu farw Zaib-Un-Nisa, 54 oed a mam-gu’r plant, yn yr ysbyty ar ôl cael ei hanafu wrth neidio drwy ffenest ei chartref yn dilyn y tân yn 2002.

Achos gwreiddiol

Yn dilyn yr achos llys gwreiddiol, cafwyd Shaied Iqbal yn euog o wyth achos o lofruddio, tra bod Shakiel Shazad a Nazar Hussain wedi’u cael yn euog o ddynladdiad.

Cafwyd hyd i Shahid Mohammed yn Rawalpindi ym Mhacistan yn 2015.

Ar ôl bod yn y carchar yn y wlad honno, cafodd ei estraddodi fis Hydref y llynedd er mwyn ei gyhuddo.