Mae’r canwr Ian Watkins, cyn-brif leisydd Lostprophets, yn gwrthod enwi dau ddyn wnaeth ei orfodi i ofalu am ffôn symudol yn y carchar.
“Dw i’n hoff o ‘mhen ar fy nghorff,” meddai wrth y rheithgor yn Llys y Goron Leeds.
Fe ddywedodd wrth y llys fod yna “lofruddwyr, llofruddwyr torfol, treiswyr, pedoffiliaid, llofruddwyr lluosog – y gwaethaf ohonyn nhw i gyd” yn y carchar yn Wakefield, lle mae e dan glo am droseddau rhyw.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd fod dau ddyn wedi cerdded i mewn i’w gell a thaflu ffôn symudol ar ei wely, a’i orchymyn i ofalu amdani, gan ychwanegu mai llofruddwyr oedden nhw.
Dywedodd iddo gael ei fygwth pe na bai’n gofalu am y ffôn, gan ychwanegu mai eu dull o ladd pobol oedd trwy dorri eu gyddfau.
Mae’n gwrthod dweud hefyd pwy sydd biau’r ffôn symudol, gan ddweud y byddai hynny’n achosi “llu o broblemau” iddo.
Fe roddodd e’r ffôn i swyddog y carchar yn y pen draw am ei fod yn poeni na fyddai’n cael gweld ei rieni.
Mae’n gwadu cyhuddiad o fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar.