Doedd neb yn deilwng o Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Y dasg oedd cyfansoddi cyfanwaith i gôr SATB rhwng chwech ac wyth munud o hyd gyda chyfeiliant neu’n ddi-gyfeiliant.

Roedd modd i’r cystadleuwyr ddefnyddio unrhyw ddetholiad o’r gerdd Llwch y Sêr gan Grahame Davies, i gynnwys dau neu dri darn.

Y wobr eleni oedd Tlws y Cerddor, yn rhoddedig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, a £750 yn rhoddedig gan Brosiect Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol.

Yn ogystal, roedd ysgoloriaeth gwerth £2,000 yn cael ei chynnig gan Y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol.

Yr ymgeiswyr a’r feirniadaeth

Daeth deg darn i law, a’r beirniaid eleni oedd Richard Elfyn Jones, Gareth Glyn ac Eilir Owen Griffiths.

Er na chafodd y wobr ei dyfarnu, dywedodd y beirniaid fod tri darn yn codi uwchlaw’r gweddill, sef darnau gan Canrhawdfardd, Sagan a Delw.

“Iawn mewn rhannau” oedd ymateb Richard Elfyn Jones i’r darnau wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Wrth bori drwy’r deg cyfansoddiad cofiais am yr hen gartŵn o Punch o amser pell pell yn ôl lle’r oedd ciwrad nerfus yn gorfod aros y  noson gyda’i esgob ac wrth i’r ddau gael brecwast sylweddolodd y ciwrad druan bod ei wy-wedi-ferwi yn ddrwg iawn,” meddai o’r llwyfan.

“Sut mae’ch wy chi giwrad?” gofynnodd yr esgob. Ac ateb y ciwrad nerfus oedd, “Iawn mewn rhannau, Esgob, iawn mewn rhannau!”

“A dyna oedd fy nheimlad i hefyd yn y gystadleuaeth hon sef bod llawer o’r cyfansoddiadau yn “iawn mewn rhannau” – llawer o’r  ysgrifennu yn iawn ond llawer o’r mynegiant braidd yn anwadal yn dechnegol a heb daro deuddeg o ran adlewyrchu’n effeithiol cerdd hudolus Grahame Davies.

“Mae’r gerdd Llwch y Sêr mewn dwy ran ac yn fynegiant llachar ac emosiynol o bwysigrwydd llwch y sêr i ni ac i dynoliaeth ers cyn cof, ac yn enwedig wrth i ni ddathlu hanner canmlwyddiant taith annhygoel Apollo 11.

“Un sylw cyffredinol cyn dyfarnu.  Nid ydym yn gwybod faint o gerddoriaeth gorawl gyfoes mae llawer o’r ymgeiswyr wedi gwrando arni cyn mentro i’r gystadleuaeth hon.

“Gan fod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol  nid oes terfyn ar fodelau eithriadol grefftus ac ysbrydoledig y gall cyfansoddwr uchelgeisiol eu hastudio a chael ei ysbrydoli ganddynt, ac wedyn efallai eu defnyddio fel modelau.

“Mae’n od i ni  fod cynifer o’r cystadleuwyr heb ddangos ymwybyddiaeth o’r cyfoeth o fodelau sydd ar gael i’w hastudio ac i fod yn ysbrydoliaeth iddynt.”