Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gorfod cau maes parcio Hendre Wen, y cyntaf ar y ffordd i mewn o gyfeiriad Betws-y-coed, heddiw (dydd Mercher, Awst 7) oherwydd y mwd.
Yn dilyn cawodydd ddoe mae’r caeau wedi troi’n frown a llithrig, ac mae gweithwyr yn gorffwyso’r tir ar hyn o bryd, meddai pennaeth cyfathrebu’r Eisteddfod, Gwenllian Carr.
“Mae gwaith gorffwyso yn mynd yn ei flaen ar faes parcio Hendre Wen, ac rydan ni’n gobeithio y bydd hi ar agor erbyn dydd Gwener,” meddai.
“Ar hyn o bryd mae lle ym maes parcio Tŷ Gwyn, ger y bont, i geir barcio. Gobeithio mai dim ond gwella bydd y tywydd.”
“Mae cynlluniau mewn lle yn barod os daw tywydd drwg. Rydan ni’n edrych yn barhaus ar y tywydd ac fe fydden ni’n asesu ei effaith ar lwyfannau a’r maes yn agosach at yr amser.”
Mae hi’n gymysgedd o law a haul heddiw, yn reit heulog yfory (dydd, Iau, Awst 8), ond mae rhybuddion am law a tharanau ar ddydd Gwener (Awst 9) a dydd Sadwrn (Awst 10).