Mae un o’r beirniaid llefaru ym mhrifwyl Llanrwst yn dweud iddi gael ei “phlesio’n fawr iawn” gan safon y cystadlaethau hyd yn hyn, gyda 36 wedi cystadlu mewn un gystadleuaeth ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl.
Dyma’r eildro mewn pum mlynedd i Elin Williams o Gwmann ger Llanbedr Pont Steffan feirniadu’r cystadlaethau llefaru yn y brifwyl, ac eleni ei chyd-feirniaid yw Dyfrig Davies ac Esyllt Tudur Adair.
Mae’r tri wedi cael wythnos brysur hyd yn hyn, gyda gofyn iddyn nhw feirniadu chwe chystadleuaeth dros gyfnod o chwe diwrnod.
“Dydych chi ddim yn cael llawer o amser i grwydro’r Maes, i ddweud y gwir, pan ydych chi’n cael diwrnod llawn fel dydd Sadwrn lle [ar gyfer y Llefaru dan 12 oed], roedd 36 wedi dod, er bod yna sawl un arall wedi rhoi eu henwau i mewn…” meddai Elin Williams.
“Roedd y llaw yn gwneud dolur erbyn y diwedd. Roeddwn i’n beirniadu ac yn sgrifennu beirniadaethau tan chwech o’r gloch y nos, ac roeddwn i wedi dechrau am naw…”
“Dw i wedi cael fy mhlesio’n fawr iawn, i ddweud y gwir, gydag ambell i uchafbwynt ac ambell i berfformiad ‘waw’.”
“Y cystadleuwyr sy’n bwysig”
Er bod Elin Williams wrth ei bodd â’r gwaith o feirniadu, mae’n well ganddi fod yr ochr arall i’r bwrdd, meddai wedyn.
Yn ôl y gyn-athrawes Gymraeg sy’n gyfrifol am hyfforddi partïon llefaru fel Sarn Helen – sydd ddim yn cystadlu eleni am resymau amlwg – mae’r gwaith hwnnw yn rhoi “cymaint o bleser, a mwy” iddi.
“Mae pobol yn gweld y bathodyn yn dweud ‘beirniad’, ac maen nhw’n dweud, ‘o! chi’n bwysig heddi’,” meddai. “Ond os byddai’r bathodyn yn dweud ‘cystadleuydd’, mi fydda i’n bwysicach.
“Y cystadleuwyr sy’n bwysig. Heb y cystadleuwyr ni fydd yna Eisteddfod.”
Dyma glip sain o Elin Williams yn sôn am ei hwythnos yn beirniadu…