Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio wyth person a fu farw mewn tân ger Huddersfield yn 2002.
Daeth y dyfarniad yn ystod achos i lofruddiaeth pum plentyn a thri oedolyn a fu farw mewn tân yn ardal Birkby yn 2002.
Roedd Shahid Mohammed, 37, yn rhan o ymchwiliad yr heddlu ar y pryd, ond roedd wedi ffoi i Bacistan ar drothwy achos llys yn 2003, pan gafodd sawl person arall eu dedfrydu am eu rhan yn y digwyddiad.
Yn ystod achos pedwar wythnos yn Llys y Goron Leeds, fe glywodd y llys fod y tân wedi digwydd yn dilyn ffrae rhwng Shahid Mohammed â theulu’r Chisti.
Dywedodd yr erlynwyr fod Shahid Mohammed wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion fod ei chwaer, Shahida, mewn perthynas â dyn o’r enw Saud Pervez.
Roedd un aelod o deulu’r Chisti, sef Mohammed Ateeq-Ur-Rehman, wedi chwarae “rhan allweddol” mewn cadw’r berthynas i fynd, yn ôl yr hyn a glywodd y llys, ac mae lle i gredu ei fod wedi cael ei dargedu oherwydd hynny yn yr ymosodiad ar Fai 12, 2002.
Clywodd y rheithgor hefyd fod bomiau petrol wedi cael eu taflu i mewn i’r eiddo ar Ffordd Osborne, gan gynnau cyflenwad ar wahân o betrol a oedd wedi cael ei dywallt i mewn i’r cartref.
Mae disgwyl i Shahid Mohammed gael ei ddedfrydu yfory (dydd Mercher, Awst 7).