Mae dyn, 45, a aeth i drafferth yn y môr ger Porthmadog wedi marw, yn ôl adroddiadau.
Fe gafodd y dyn ei dynnu o’r dŵr gan aelodau’r cyhoedd yn ardal Borth-y-gest brynhawn ddoe (dydd Llun, Awst 5).
Y gred yw bod y gŵr, a oedd yn dod o Fanceinion, yn ceisio achub plentyn pan aeth i drafferthion.
Fe gafodd wedyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau iddyn nhw dderbyn sawl galwad 999 yn adrodd bod person yn y dŵr ger Porthmadog.