Mae dyn ifanc wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad yn oriel gelf Tate yn ninas Llundain dros y penwythnos, pan syrthiodd bachgen, 6, oddi ar blatfform uchel.
Mae disgwyl i’r person, 17, ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Bromley heddiw (dydd Mawrth, Awst 6) wedi ei gyhuddo o geisio lladd y bachgen, sy’n dod o Ffrainc ac ar ymweliad â Llundain gyda’i deulu.
Cafodd y bachgen ifanc ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl iddo gael ei ganfod ar bumed llawr yr oriel gelf brynhawn dydd Sul (Awst 4). Mae ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog.
Mae’n debyg bod y bachgen wedi syrthio pum llawr ar ôl cael ei daflu, yn ôl yr honiad, oddi ar blatfform ar y degfed llawr.
Yn ôl Scotland Yard, does dim cysylltiad rhwng y dioddefwr â’r sawl sydd wedi cael ei gyhuddo.