Mae cyn-Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo Donald Trump “o ddefnyddio ieithwedd” eithafwyr gwyn.

Mae Joe Biden, sy’n ymgeisio i fod yn y ras am y Tŷ Gwyn, hefyd wedi dweud y byddai’n sefydlu cynllun yn annog Americanwyr i roi’r gorau i rai o’i gynnau os bydd yn cael ei ethol yn Arlywydd.

Daw cyhuddiad y gwleidydd a oedd yn Ddirprwy Arlywydd i Barack Obama rhwng 2008 a 2017 yn sgil dau ymosodiad yn nhaleithiau Ohio a Texas dros y penwythnos.

Er hyn, mae Joe Biden wedi osgoi cyhuddo Donald Trump o fod yn eithafwr gwyn, yn wahanol i rai o’i gyd-Ddemocratiaid sydd hefyd eisiau ymgeisio am yr Arlywyddiaeth.

“Dw i ddim yn siŵr beth mae’r gŵr hwn yn ei gredu, os yw’n credu unrhyw beth,” meddai Joe Biden mewn cyfweliad â CNN.

“Edrychwch ar y ffordd mae’n siarad am Fwslemiaid. Edrychwch ar y ffordd mae’n siarad am fewnfudwyr. Edrychwch ar y ffordd mae’n siarad am bobol o liw.

“Mae’n siarad amdanyn nhw mewn termau is-ddynol, bron,” meddai wedyn, cyn dweud bod ieithwedd o’r fath yn fwyd i genedlaetholwyr gwyn yn yr Unol Daleithiau.

“Mae hyn, yn blwmp ac yn blaen, yn frawychiaeth cenedlaetholdeb gwyn.”