Mae’r heddlu yn Malaysia wedi cynyddu ei ymdrechion i chwilio am ferch, 15, o Lundain, sydd wedi diflannu o barc gwyliau yn y wlad.
Yn ôl teulu Nora Quoirin, roedd y ferch wedi diflannu o’i hystafell wely ym mharc gwyliau Dusun yn nhalaith Negeri Sembilan fore dydd Sul (Awst 4).
Roedd ffenest yr ystafell ar agor, medden nhw wedyn, ond dyw’r mater ddim yn cael ei ystyried yn un troseddol gan yr heddlu.
Mae mwy na 160 o swyddogion bellach yn chwilio am Nora Quoirin, sydd ag anghenion arbennig, yn ôl y cyfryngau newyddion lleol.
Mae’r rheiny sy’n chwilio’r dirwedd fynyddig a’r jwngl yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, aelodau o’r cyhoedd, ac adran goedwigaeth y wlad.
Mae’r awdurdodau lleol hefyd yn dweud bod brodorion lleol – yr Orang Asli – yn helpu gyda’r ymdrechion.