Mae pôl piniwn newydd wedi darganfod bod y mwyafrif o bobol yr Alban o blaid annibyniaeth.
Mae canlyniadau arolwg barn yr Arglwydd Ashcroft yn dangos bod 46% o blaid annibyniaeth a 43% yn erbyn.
Pan gafodd y rheiny oedd wedi dweud nad oedden nhw’n gwybod sut fyddan nhw’n pleidleisio, neu na fyddai’n pleidleisio, eu hepgor roedd y gefnogaeth o blaid annibyniaeth yn cynyddu i 52% a 48% yn erbyn.
Roedd yr arolwg ar-lein wedi holi 1,019 o oedolion yn yr Alban rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 2.
Roedd 47% yn teimlo y dylid cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth o fewn y ddwy flynedd nesaf, gyda 45% yn erbyn.
Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi croesawu’r canlyniadau gan ddweud eu bod yn “syfrdanol” ac yn dangos “bod mwy a mwy o bobol yn credu ei bod yn bryd i’r Alban wneud ein penderfyniadau ein hunain a llywio ein dyfodol” wrth i’r wlad gael ei “llusgo” tuag at Brexit heb gytundeb.