Mae’r Llywodraeth wedi dweud bod “cynlluniau llawn” mewn lle i sicrhau bod cyflenwad o feddyginiaethau ar gael os oes Brexit heb gytundeb.

Ac mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi dweud nad oes gan yr hwb o £1.8bn i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) unrhyw beth i’w wneud gyda pharatoi ar gyfer etholiad cyffredinol.

Wrth siarad gyda Good Morning Britain ar ITV dywedodd Matt Hancock: “Galla’i sicrhau bod gynnon ni gynlluniau mewn lle i wneud yn siŵr bod y GIG wedi paratoi ar gyfer unrhyw senario Brexit.”

Ychwanegodd mai’r GIG yw eu “blaenoriaeth” ac roedd yn mynnu mai “arian newydd” yw’r £1.8bn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Boris Johnson heddiw.