Mae prif weithredwr HSBC, John Flint, wedi camu o’i swydd ar ôl i’r banc ddweud bod angen newid “i gwrdd â’r heriau” mae’n ei wynebu.

Yn ôl y banc, “cytundeb ar y cyd gyda’r bwrdd” oedd penderfyniad John Flint i ymddiswyddo.

Fe fydd Noel Quinn yn cymryd yr awenau nes bod olynydd yn cael ei benodi.

Nid yw’n glir faint o arian fydd John Flint yn cael ei dalu pan fydd yn gadael y busnes ond y llynedd cafodd £4.6m.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r banc gyhoeddi ei ganlyniadau am chwe mis cynta’r flwyddyn a oedd yn dangos cynnydd o 15.8% mewn elw cyn treth i £10.2bn. Roedd ei elw ar ôl treth wedi cynyddu 18.1% i £8.13bn.

Dywedodd cadeirydd HSBC Mark Tucker eu bod yn diolch i John Flint am ei waith gyda’r banc dros gyfnod o 30 mlynedd.

Er bod HSBC “mewn safle cryf” meddai, roedd newid y prif weithredwr yn hanfodol “i gwrdd â’r heriau ry’n ni’n eu hwynebu ac i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.”