Mae Prif Weinidog newydd gwledydd Prydain, Boris Johnson, yn symud mewn i Downing Street heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 29) a hynny gyda’i gariad Carrie Symonds.
“Fe fydd y Prif Weinidog yn symud mewn yn swyddogol heddiw, ac fe fydd ei bartner yn byw yno,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10.
Fe fyddan nhw’n byw yn y fflatiau uwchben Rhif 11 yn hytrach na Rhif 10 a dywedodd llefarydd “na fydd cost i’r trethdalwr.”
Ni fydd unrhyw staff sy’n cael eu cyflogi gan y cyhoedd yn gweithio i Carrie Symonds, oedd yn gyn-ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus i’r Torïaid, meddai’r llefarydd.
Dyma’r tro cyntaf erioed i gwpl sydd heb briodi fyw gyda’i gilydd yn swyddogol yn Downing Street.
Mae’r ddau wedi bod yn byw gyda’i gilydd yn fflat Carrie Symonds yn Camberwell, de Llundain.