Cafodd bachgen wyth oed ei daro a’i ladd gan drên ym mhrif orsaf drenau Frankfurt, yr Almaen, ar ôl i ddyn wthio yntau a’i fam ar y cledrau.
Bu faw’r bachgen gan drên cyflym wrth iddo gyrraedd yr orsaf – un o rai prysuraf y wlad.
Fe lwyddodd y fam i ddianc ond cafodd y bachgen ei daro gan ddioddef anafiadau difrifol, meddai llefarydd ar ran heddlu Frankfurt, Isabell Neumann.
Roedd y dyn wedi ffoi oddi yno cyn cael ei arestio ger yr orsaf. Mae’n cael ei holi ac nid oes unrhyw wybodaeth am ei gymhelliad dros wthio’r ddau.
Dywed Isabell Neumann nad oedd hi’n ymddangos bod cysylltiad rhwng y dyn a’r bachgen a’i fam.