Mae person ifanc yn ei arddegau wedi gwadu llofruddiaeth bachgen 14 oed a gafodd ei fwrw oddi ar foped a’i drywanu i farwolaeth.
Cafodd Jaden Moodie, o Waltham Forest, ei anafu yn Leyton, dwyrain Llundain, tua 6.30yh ar ôl adroddiadau am ddamwain ffordd.
Cafodd ei drin gan barafeddygon ond bu farw’n fuan wedyn. Roedd wedi cael ei drywanu saith gwaith.
Mae Ayoub Majdouline, 18, o Wembley, gogledd Llundain, wedi ymddangs gerbron yr Old Bailey trwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh heddiw. Mae wedi pledio’n ddieuog i lofruddio ac o fod â chyllell yn ei feddiant.
Mae disgwyl iddo fynd ar ei brawf yn yr Old Bailey ar Dachwedd 18.