Mae ymchwiliad ar y gweill i lofruddiaeth dyn 49 oed yn dilyn ffrwgwd ger clwb pêl-droed yng Nghaeredin.
Cafwyd hyd i’r dyn wedi’i anafu ger clwb cymdeithasol Clwb Pêl-droed Edinburgh City fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 21), ac fe fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y digwyddiad ger tafarn Loch Inn am oddeutu 12.15yb.