Mae’r heddlu’n chwilio am ddau ddyn ar ôl i nwy gael ei ryddhau ar drên tanddaearol yn Llundain.
Cafodd nifer o bobol driniaeth yn Oxford Circus am effeithiau’r nwy.
Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, nwy CS oedd wedi cael ei ryddhau, ac maen nhw wedi cyhoeddi lluniau camerâu cylch-cyfyng o ddau ddyn maen nhw’n awyddus i’w holi.
Maen nhw’n parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad.