Mae dioddefwyr trais yn y cartref mewn ardaloedd gwledig yn cael llai o gefnogaeth, ac fe all hyn benderfynu’r gwasanaeth rhwng byw a marw, yn ôl adroddiad.

Yn ôl ymchwil gan y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol mae dioddefwyr yn aros am hirach gyda’i phartneriaid – ar gyfartaledd o dair blynedd cyn gofyn am gymorth, i gymharu â 2.6 mewn ardaloedd dinesig.

Mae’n honni bod dioddefwyr mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o godi eu llais a chysylltu â’r heddlu, er bod nifer yr achosion o drais sydd ar record yn y wlad yn is.

Hefyd mae’n yn dweud ei bod hi’n anoddach i gael mynediad i wasanaethau cefnogaeth yng nghefn gwlad, ble mae trafnidiaeth gyhoeddus fel arfer yn brinnach.

Dywed yr adroddiad bod camdrinwyr yn cael eu tynnu i ardaloedd gwledig fel y gallen nhw gadw’r dioddefwr ar ei ben ei hun.

Mae’r adroddiad yn cynnwys data troseddau o 2016 o 11 o heddluoedd yng ngwledydd Prydain, a ddadansoddwyd gan Heddlu Dyfed-Powys. Yn ôl y data roedd 9.23 o droseddau cam-drin domestig fesul 1,000 o bobl wedi’u hadrodd mewn ardaloedd gwledig o gymharu â 17.92 mewn dinasoedd a threfi.