Mae’r grŵp asgell dde Britain First wedi cael dirwy o £44,200 gan y Comisiwn Etholiadol am fethu a dilyn rheolau arian.
Cafodd y grŵp ddirwy gan y Comisiwn am nifer o droseddau pan oedd hi wedi cofrestru fel plaid wleidyddol yn y cyfnod fyny at Dachwedd 2017.
Er i Britain First ddadgofrestru ers hynny, mae’r grŵp yn dal yn gyfrifol ei weithredoedd ers hynny, meddai’r Comisiwn Etholiadol.
Mae’r dirwyon yn cynnwys uchafswm o £20,000 am fethu â chydymffurfio â hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i Britain First ddarparu gwybodaeth i’r comisiwn.
Roedd cosb o £ 1,000 hefyd am fethu â chadw cofnodion ariannol cywir o drafodion yn 2016.
Arweiniodd methiant i ddarparu adroddiadau rhoddion chwarterol yn 2016 at ddirwy o £7,700 – roedd rua £200,000 o roddion heb eu datgan yn ôl ymchwiliad y Comisiwn.
A gosodwyd dirwy o £5,500 am fethu a rhoi ei ddatganiad cyfrifon yn 2016 i’r swyddfa ymchwilio hefyd.