Mae Iran wedi cadarnhau fod ymchwilwraig o Ffrainc wedi cael ei harestio yn y wlad.
Mae Fariba Adelkhah yn un o blith nifer “dan amheuaeth” ac sydd wedi cael eu harestio. Mae’r awdurdodau yn addo rhyddhau mwy o fanylion yn y man.
Mae awdurdodau Ffrainc, yn y cyfamser, yn chwilio am fwy o wybodaeth ynglŷn ag amgylchiadau’r arestio, ac maen nhw wedi mynnu y dylen nhw gael ei gweld “yn ddiymdroi”.
Mae gwefannau sy’n gwrthwynebu’r drefn yn Iran yn dweud fod yr ymchwilwraig wedi “diflannu” o Tehran ers Mehefin.