Mae rhai defnyddwyr mesuryddion egni yn Lloegr wedi bod mewn penbleth ar ôl i’w hiaith droi o’r Saesneg I’r Gymraeg.
Yn ôl cwsmeriaid cwmni egni Bulb, mae’r newid wedi newid ar y dyfeisiadau ar ei ben ei hun, er bod llawer ohonynt yn byw dros 100 milltir o Gymru.
Dywedodd y cwmni fod y gwall “prin” wedi effeithio ar tua un o bob 200 o’r mesuryddion a bod cwsmeriaid wedi bod yn crafu eu pennau yn ceisio trwsio’r broblem, gan fod iaith y gosodiadau ar y ddyfais wedi newid hefyd,
Sylwodd defnyddwyr ar y newid ar ôl y dangosydd “usage today” newid i “defnydd heddiw”.
Cafodd Bulb ei orfodi i bostio ateb i’r mater ar ei wefan ei hun ar ôl i nifer o gwsmeriaid gwyno.trydan