Mae dynes 75 oed wedi cael ei tharo a’i lladd gan feic pedair olwyn ar balmant yn Glasgow.
Fe ddigwyddodd am 3.10yp ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 13), a bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.
Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad, ac wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.