Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’i dad 64 oed a’i fam 74 oed yn ne-orllewin Llundain.
Cafwyd hyd i gyrff Akbar a Layla Arezo yn eu cartref yn ardal Whitton ddydd Gwener (Gorffennaf 12).
Bydd Mustafa Arezo yn mynd gerbron ynadon Wimbledon yfory (dydd Llun, Gorffennaf 15).