Mae dau unigolyn oedd wedi datgelu honiadau o wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur yn bwriadu dwyn achos yn erbyn y blaid.
Mae Sam Matthews a Louise Withers Green yn credu bod y Blaid Lafur wedi eu pardduo yn eu hymateb i’r honiadau.
Fe ddatgelodd rhaglen Panorama y BBC yr wythnos ddiwethaf honiadau fod nifer o fewn y Blaid Lafur, gan gynnwys Seumas Milne, pennaeth y wasg Jeremy Corbyn, a Jennie Formby, yr ysgrifennydd cyffredinol, wedi ymyrryd yn yr ymchwiliad.
Wrth ymateb, dywedodd y Blaid Lafur fod gan y ddau “resymau personol a gwleidyddol” tros wneud yr honiadau, ac y byddan nhw’n amddiffyn eu hymateb “hyd y diwedd” ac yn ôl Jeremy Corbyn, mae’r honiadau’n cynnwys nifer o sylwadau “anghywir”.
Mae cyfreithiwr ar ran y ddau yn dweud bod y blaid “wedi ymddwyn mewn modd sy’n ceisio dinistrio enw da” y rhai oedd wedi gwneud yr honiadau.