Mae HM Ershad, cyn-unben Bangladesh, wedi marw’n dilyn salwch yn 91 oed.
Fe gipiodd e rym yn 1982, gan gyhoeddi flwyddyn yn ddiweddarach mai fe oedd arlywydd y wlad, ac roedd e wrth y llyw tan 1990.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth yn arweinydd yr wrthblaid yn y senedd bresennol.
Sefydlodd e blaid Jatiya, gan ennill etholiad dadleuol yn 1986.