Fydd Guto Bebb ddim yn ceisio eto am sedd y Ceidwadwyr yn etholaeth Aberconwy yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Daeth ei gyhoeddiad yn ystod sgwrs ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 14).
Cafodd ei ethol i’r sedd yn etholiad cyffredinol 2010 ond mae’n dweud erbyn hyn nad yw’n cydweld â chyfeiriad y blaid, wrth i Boris Johnson a Jeremy Hunt frwydro am gefnogaeth i olynu Theresa May yn arweinydd.
“Dwi wedi bod yn ystyried be dwi’n mynd i’w wneud yn wleidyddol ers cryn dipyn, achos yn naturiol dwi ddim yn hapus iawn efo’r ffordd mae’r Blaid Geidwadol yn mynd ar y funud,” meddai ar y rhaglen.
“Yn enwedig felly’r ymgyrch arweinyddol, sydd wedi dangos i mi fod ’na agweddau o fewn y Blaid Geidwadol sydd ddim yn apelio o gwbl.
“Dwi hefyd yn meddwl fod rhaid i rywun fod yn hollol onest gyda’r etholwyr.
“Dwi wedi gwrando yn astud iawn ar y ddau sy’n ymgiprys am yr arweinyddiaeth a dwi wedi dod i’r casgliad na allwn i ddim, efo unrhyw gydwybod, fod yn cynnig fy hun fel ymgeisydd sy’n cytuno efo’r arweinyddiaeth.
“Yr hyn sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf ydy bod y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi golygu fod ’na dueddiad o fewn y blaid i apelio at yr eithafon.
“Er gwaethaf popeth dydw i ddim yn credu ’mod i’n genedlaetholwr Saesnig, ac yn gynyddol amlwg i mi mae’r Blaid Geidwadol yn apelio at y math o genedlaetholdeb hwnnw sydd wedi gweld twf UKIP yn y gorffennol a thwf Plaid Brexit bellach.”
Y dyfodol
Cyn ymuno â’r Ceidwadwyr, fe fu Guto Bebb yn aelod o Blaid Cymru.
Ond mae’n dweud nad yw’n debygol o ddychwelyd at y blaid honno, gan nad ydyn nhw “wedi newid llawer”, ac am nad yw’n “coleddu rhai o’u hagweddau economaidd”.
Mae’n pwysleisio ei fod yn Gymro, ond yn “gwbl gyfforddus efo’r syniad o fod yn rhan o’r undeb ym Mhrydain a’r undeb yn Ewrop”.
Ond mae’n wfftio’r “cenedlaetholdeb ’dan ni’n weld ar y funud yn y Blaid Geidwadol”.
Boris Johnson
Mynegodd Guto Bebb ei farn am Boris Johnson yn blwmp ac yn blaen, gan ddweud y byddai’n Brif Weinidog “trychinebus”.
Dywedodd ei fod e naill ai’n dweud celwyddau neu ddim yn gwneud ei waith cartref cyn gwneud datganiadau.