Mae rhybuddion yn eu lle mewn sawl talaith wrth i storm drofannol Barry barhau i daro’r Unol Daleithiau.
Er i’r storm osgoi New Orleans, mae rhybudd gan John Bel Edwards, Llywodraethwr Louisiana, i drigolion yn ne’r dalaith honno i fod yn “wyliadwrus”.
Mae perygl o hyd y gallai’r storm achosi cryn lifogydd.
Mae disgwyl rhwng dwy a phedair modfedd o law heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 14), yn groes i’r rhybuddion cyntaf am hyd at 20 modfedd.
Neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 13), fe fu’r awdurdodau’n ceisio achub teulu o bump oedd wedi mynd yn sownd mewn llifogydd yn nhref Franklin yn ne Louisiana.
Bu’n rhaid i bobol mewn sawl tref arall ddringo i ben toeon eu cartrefi er mwyn aros yn ddiogel.
Mae’r glaw trwm hefyd wedi taro taleithiau Alabama a Mississippi, ac mae’r gwyntoedd cryfaf yn dal i gyrraedd cyflymdra o 50 milltir yr awr.