Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes feichiog ac o ddynladdiad ei baban, a gafodd ei eni yn dilyn marwolaeth ei fam.
Cafodd Kelly Mary Fauvrelle, 26, ei llofruddio yn ei hystafell wely yn Llundain am oddeutu 3.30yb ar Fehefin 29.
Bu farw Riley, ei babi bach, yn yr ysbyty ar Orffennaf 3 ar ôl iddo gael ei geni yn dilyn marwolaeth ei fam.
Cafodd Aaron McKenzie o ardal Peckham ei arestio ddydd Iau (Gorffennaf 12), a’i gludo i’r ddalfa.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o un achos o fod ag arf yn ei feddiant.
Mae dau ddyn arall wedi’u harestio ar amheuaeth o’i llofruddio, ac mae’r ddau, sy’n 37 a 29 oed, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae disgwyl i Aaron McKenzie fynd gerbron ynadon Camberwell Green yfory (dydd Llun, Gorffennaf 15).