Mae dynes mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad â char yr heddlu yng Ngororau’r Alban neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 13).
Roedd yr heddlu’n ymateb i alwad frys pan darodd eu car yn erbyn car BMW yn ardal Peebles am oddeutu 7.20yh.
Cafodd y ddynes 36 oed, oedd yn teithio yn y car, ei chludo i’r ysbyty, ynghyd â dyn 44 oed a dau o blant, pump a blwydd oed.
Cafodd gyrrwr 25 oed y car heddlu ei gludo i’r ysbyty â mân anafiadau.
Mae ymchwiliad ar y gweill.