Liam Fox
Mae cyfaill agos yr Ysgrifennydd Amddiffyn  wedi cael ei holi gan swyddogion y Cabinet heddiw, wrth iddyn nhw ymchwilio i honiadau ynglŷn â’r cysylltiad rhwng Liam Fox a Adam Werritty.

Mae’n debyg bod y cyfweliad ag Adam Werritty wedi cael ei gynnal mewn man anhysbys y tu allan i Whitehall.

Ymddiheurodd Dr Fox wrth y Senedd ddoe am ganiatau i gysylltiadau personol ymyrryd â’i fywyd proffesiynol, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi cyfarfod ag Adam Werritty 40 o weithiau dros y 18 mis diwethaf yn y Weinidogaeth Amddiffyn, ac yn ystod teithiau tramor.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud bod yr Ysgrifennydd Amddiffyn wedi gwneud “camgymeriadau mawr,” ac wedi gofyn i un o brif weision sifil Prydain, Ysgrifennydd y Cabinet Syr Gus O’Donnell, i ymuno â’r ymchwiliad i’w cysylltiadau.

Gyrfa yn y fantol

Mae’n debygol y bydd dyfodol gwleidyddol Dr Fox yn dibynnu i raddau helaeth ar gasgliadau’r ymchwiliad: os bydd swyddogion yn darganfod fod Adam Werritty wedi elwa’n ariannol o’i gysylltiad â Liam Fox, gallai hynny ddod â gyrfa’r gwleidydd i ben.

Mae’r cwestiynau wedi bod yn cynyddu am faterion ariannol Adam Werritty wedi i’r Times ddatgelu fod y tri chwmni ymgynghori sy’n berchen iddo wedi rhoi cyflog prin mwy na £20,000 iddo mewn pedair blynedd.

Mae Downing Street wedi dweud y bydd yr ymchwiliad gan Syr Gus O’Donnell yn ystyried “pob cwestiwn sy’n weddill” am yr achos.