Mae ysgoloriaeth sydd wedi bod yn meithrin cysylltiadau addysg a diwydiant yng Nghymru wedi dod i ben, ddwy flynedd cyn diwedd y prosiect, oherwydd helynt Prifysgol Cymru a chwestiynau ynglyn a gweinyddu’r cynllun.
Heddiw, fe gyhoeddodd y Gweinidog Busnes a Mentergarwch Edwina Hart, fod cynllun sydd wedi bod yn ariannu ymchwil i anghenion diwydiannau technolegol yng Nghymru ar fin cael ei ddirwyn i ben.
Derbyniodd Aelodau Cynulliad lythyr gan Edwina Hart yn dweud y byddai Cynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS), sydd werth £11miliwn, yn dod i ben yn sgil helbulon diweddaraf Prifysgol Cymru – a fu’n arwain y cynllun.
Mae’r Brifysgol wedi bod yn wynebu honiadau o dwyll yn ymwneud â fisas myfyrwyr mewn colegau oedd yn cynnig cyrsiau Prifysgol Cymru. A’r wythnos hon, roedd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi galw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru, D Hugh Thomas, i “ystyried ei sefyllfa.”
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf wedi i adolygiad o’r cynllun, sy’n derbyn £5miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd, gael ei lansio ym mis Ionawr. Mae’r adolygiad hwnnw wedi dod i’r casgliad bod diffygion gweinyddol ynghlwm â’r cynllun.
Yn ôl y datganiad gan Edwina Hart, darganfuwyd “nifer o ddiffygion rheoleiddio a llywodraethu, yn bennaf mewn cysylltiad â pha mor gymwys oedd yr arian Ewropeaidd a gafodd ei wario.”
Roedd Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru eisoes wedi atal taliadau ar y prosiect tra bod yr adolygiad yn mynd yn ei flaen – a dim ond £0.4 miliwn sydd wedi cael ei dalu o’r gronfa ar gyfer y prosiect hyd yn hyn.
“Mae’r Swyddfa nawr yn cydweithio â Phrifysgol Cymru er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddirwyn i ben, tra’n bod ni’n parhau i ariannu ymrwymiadau cytundebol i fyfyrwyr cymwys a busnesau,” meddai Edwina Hart.
“Bydd yr arian Ewropeaidd sydd wedi cael ei dynnu oddi wrth y prosiect nawr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau eraill,” meddai.
Roedd y cynllun yn gwahodd pobol led led y byd i wneud cais am ysgoloriaeth o dan y cynllun, a fyddai’n arwain at gydweithio â chwmniau yng Nghymru.
‘Siom’
Ond mae’r Aelod Cynulliad Peter Black wedi mynegi siom fod cynllun o’r fath yn cael ei atal, heb arwydd bod unrhyw gynllun arall i ddod yn ei le.
“Mae cynlluniau fel hyn yn holl bwysig er mwyn creu cysylltiad rhwng addysg uwch yng Nghymru ag anghenion masnachol y wlad,” meddai wrth Golwg 360.
“Dwi’n derbyn efallai fod yn rhaid iddo ddod i ben oherwydd problemau mewnol,” meddai, “ond beth sy’n fy siomi i yw nad oes dim byd arall yn dod yn lle’r cynllun.
“Os na wnawn ni ddod o hyd i gynllun i gymryd ei le nawr, mae’n debygol iawn y byddwn ni’n cyrraedd sefyllfa lle mae’r cysylltiadau gwerthfawr sydd ganddon ni rhwng addysg a diwydiant ar hyn o bryd yn cael eu colli,” meddai.
Mae’r cynllun wedi bod yn rhoi profiad gwaith a chyfleon ymchwil i fyfyrwyr mewn diwydiannau technolegol ar draws gorllewin a de Cymru.
Mae’r Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru nawr yn galw ar Edwina Hart, y Gweinidog Busnes a Mentergarwch, i ystyried cynlluniau eraill “er mwyn cymryd lle’r cynllun hwn cyn gynted â phosib.”
“Mae diwedd y Cynllun Arloesi,” meddai Peter Black, “yn golygu nad oes yna gynllun tebyg i gael nawr lle gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi’n uniongyrchol mewn ymchwil i ddiwydiant yng Nghymru.”