Mae deg o bobol, gan gynnwys tri phlismon, wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad cemegol yn Leicester.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i dafarn yn ardal Aylestone y ddinas fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 7).

Mae lle i gredu bod amonia wedi cael ei chwistrellu yn ystod ffrwgwd, lle’r oedd nifer o bobol yn defnyddio batiau pêl fas.

Cafodd pump o bobol eu harestio.

Mae dyn 53 oed a dynes 43 oed wedi’u hamau o achosi niwed corfforol, dyn 22 oed o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, a dynes 29 oed o ddifrod troseddol.

Cafodd llanc 15 oed ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf yn ei feddiant.