Mae pump o bobol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws yng Nghwm Tawe.

Fe ddigwyddodd ar y ffordd rhwng Craig y Nos ac Ystradgynlais.

Fe fu’n rhaid cau’r ffordd wrth i sawl ambiwlans a’r ambiwlans awyr ymateb i’r digwyddiad, ond mae’r lôn bellach wedi’i hagor eto.

Dywed yr heddlu fod y pump a gafodd eu cludo i’r ysbyty wedi cael mân anafiadau.