Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Mair Penri, y dramodydd a chyn-lywydd cenedlaethol Merched y Wawr, sydd wedi marw’n 78 oed.
Cafodd ei geni ym Mhenygarnedd a’i magu yn Sir Drefaldwyn, ac roedd hi’n byw yn Y Parc ger y Bala am rai blynyddoedd.
Astudiodd yn y Coleg Normal ym Mangor cyn mynd yn athrawes.
Roedd hi’n llywydd cenedlaethol Merched y Wawr rhwng 1990 a 1992, ac enillodd hi Fedal Syr T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008 am ei chyfraniad i Eisteddfodau, y ddrama, ac i fywyd cymdeithasol a chrefyddol ei bro.
Ym myd yr Eisteddfod Genedlaethol, cafodd hi lwyddiant ar y Cyflwyniad Digri dair gwaith yn olynol rhwng 2005 a 2007.
Teyrngedau
Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddi ar y cyfryngau cymdeithasol mae Liz Saville-Roberts, aelod seneddol Plaid Cymru, a’r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis.
Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod hi’n “ffyddlon i’w bro a Chymru ar hyd ei hoes”.
“Collwyd rhan fach fywiog ac annwyl o Gymru heddiw wrth fod Mair Penri’n ynadael â ni,” meddai Ffred Ffransis ar ei dudalen Facebook.
“Ac eto, mae cof gan genedl ac nid eith ei chyfraniad byth ar goll.
“Wedi dod i’w nabod yn ystod y frwydr am Ysgol y Parc.
“Fy nghydymdeilad dwys â’r teulu a’r gymuned.”