Mae Dafydd Iwan yn dweud ei fod yn “falch” ar ôl cyfarfod â’r Tywysog Charles, sydd wedi bod yn destun dychan a choegni yn ei ganeuon ers hanner canrif.

Fe fu’r ddau yn cyfarfod ar Orffennaf 1 eleni, union hanner can mlynedd ers arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon yn 1969.

Bydd y cyfarfod yn destun rhaglen ddogfen arbennig, Dafydd Iwan: Y Prins a Fi ar S4C heno (nos Sul, Gorffennaf 7).

“Rwy’n falch ein bod wedi cwrdd,” meddai’r canwr ac ymgyrchydd gwleidyddol.

“Mae gen i gryn barch at y dyn hwn, nid fel Tywysog Cymru ac nid fel aelod o’r Teulu Brenhinol ond fel dyn sy’n angerddol am yr hyn y mae’n ei gredu ynddo.

“Rwy’n weriniaethwr o hyd, fydda i byth yn frenhinwr, ond mae gan Charles a minnau fwy yn gyffredin nag oeddwn yn ei dybio.

“Y peth pwysicaf yw fy mod i wedi cael cyfle i ddangos nad yw’r ffaith fy mod i’n gwrthwynebu’r frenhiniaeth yn rheswm i gasáu rhywun.

“Mae’n bwysig ein bod yn gallu byw gyda’n gilydd.

“Mae’n gyfle i ddangos ei bod hi’n bosibl anghydweld heb fod yna ddrwgdeimlad a’n bod yn gallu cael hyd i’r hyn sy’n gyffredin rhyngom er mwyn creu dyfodol gwell i Gymru a’r byd.”

1969

Bydd y rhaglen yn defnyddio deunydd o’r archif i greu darlun o’r cyfnod, a 1969 yn flwyddyn o brotest wrth i Blaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith fagu stêm.

Cafodd y seremoni yng nghastell Caernarfon ei gwylio gan 500 miliwn o bobol ar draws y byd, a’r holl lygaid ar Gymru yn ystod y digwyddiad.

“Yr ymateb i’r protestio yn erbyn yr Arwisgiad oedd y casineb mwyaf dw i ’di ei weld erioed mewn gwleidyddiaeth,” meddai Dafydd Iwan, oedd yn 25 oed ar y pryd.

“Mi roedd pethau ffiaidd yn cael eu dweud a fy mywyd yn cael ei fygwth yn llythrennol ar bapur ac ar lafar.

“Ac yn anffodus, roedd Charles yn cael ei roi i fyny fel symbol o burdeb a pherffeithrwydd a finna’ yn cael fy ngosod fel y diawl a’r gelyn cyhoeddus pennaf felly.”

Rôl y teulu brenhinol yng Nghymru

Roedd Dafydd Iwan yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith adeg yr arwisgo, ac roedd yn aml yn mynegi ei farn drwy ei ganeuon protest, gan gynnwys ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg-Nain’.

“Beth mae’n rhaid i ni gofio ydi bod o’n gyfnod o ddeffro ymhlith pobol ifanc yng Nghymru ac o ail-ddiffinio’n perthynas ni fel Cymry gyda Phrydain a gyda Lloegr,” meddai wedyn.

“Roedd yr Arwisgo yn gyfle gwych i ddweud, ‘Reit, tydan ni ddim yn derbyn yr hen drefn yn ddi-gwestiwn. Mae hwn yn gyfle i ni ddweud, ‘tydan ni ddim yn derbyn twyll Tywysog Cymru a orfodwyd wedi’r goncwest [Normanaidd]. Ran ni am dorri cwys ein hunain’.”