Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei saethu’n farw yn nwyrain Llundain – yr ail achos o saethu yn y ddinas o fewn tridiau.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Leyton toc cyn 3 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 7).
Ceisiodd y gwasanaethau brys achub ei fywyd, ond fe fu farw yn y fan a’r lle.
Dydy ei deulu ddim wedi cael gwybod hyd yn hyn.
Mae dyn arall yn ei 20au yn yr ysbyty, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl, yn ôl yr heddlu.
Cafodd dyn yn ei 30au ei saethu’n farw yn ardal Wembley y ddinas nos Wener (Gorffennaf 5), ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y ddau ddigwyddiad.