Fe fydd aelodau seneddol yn San Steffan yn ceisio atal Brexit heb gytundeb yn ystod pleidlais ar ddyfodol Gogledd Iwerddon ddydd Llun (Gorffennaf 8).

Fe fydd y mesur sy’n cael ei gyflwyno yn ceisio gohirio unrhyw etholiad yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon tan bod trafodaethau dros ddyfodol llywodraethu’r wlad wedi dod i ben.

Mae hyn yn gyfle i drafod ffyrdd o atal Brexit heb gytundeb, yn ôl Dominic Grieve, y cyn-Dwrnai Cyffredinol.

“Dros y 24 awr nesaf, fe fyddwn yn cael mesur pwysig ar Ogledd Iwerddon,” meddai wrth raglen Pienaar’s Politics ar y BBC.

“Mae Gogledd Iwerddon a Brexit yn mynd yn agos iawn gyda’i gilydd.

“Y tebygolrwydd yw, pe bai Brexit yn mynd yn ei flaen – Brexit heb gytundeb, hynny yw – fe fydd yn golygu terfyn ar undeb Gogledd Iwerddon â’r Deyrnas Unedig, gyda chanlyniadau gwleidyddol difrifol i ddilyn.

“Mae’n fesur sy’n lle cwbl deilwng i ddechrau edrych ar sut gellir sicrhau bod dadleuon llawn ar Brexit heb gytundeb cyn iddo ddigwydd.”

Hollti barn?

Ond mae Dominic Grieve yn cydnabod y gallai’r mater hollti barn gwleidyddion yn San Steffan.

“Fel yr holl bethau hyn, mae cydweithwyr yn cael eu tynnu i wahanol gyfeiriadau, yn gwbl ddealladwy, gan amryw o ystyriaethau,” meddai.

“Mae gen i syniad clir iawn o’r hyn sy’n angenrheidiol yn yr argyfwng sydd ohoni.

“Ond dydy hynny ddim yn golygu y bydd cydweithwyr o reidrwydd yn cytuno â fi bob amser, er eu bod nhw’n bobol dw i’n ceisio cydweithio’n agos â nhw.”

Yn ôl Jacob Rees-Mogg, Brecsitiwr cadarn, yr unig ffordd o geisio atal Brexit heb gytundeb yw pasio deddf newydd.