Mae rheithgor yng nghwest tri o ymosodwyr brawychol Llundain wedi ymweld â’r safle lle cafodd wyth o bobol eu lladd a 48 eu hanafu gan y tri dyn arfog.

Cafodd Khuram Butt, 27, Rachid Redouane, 30 a Youssef Zaghba, 22, eu hatal gan yr heddlu ddeng munud ar ôl iddyn nhw daro pobol â’u fan a’u trywanu yn 2017.

Clywodd yr Old Bailey iddyn nhw daro pobol ar bont ar Fehefin 3, cyn trywanu rhagor o bobol yn ardal Borough Market yn ddiweddarach.

Ddechrau’r wythnos, gwelodd y rheithgor ddeunydd camerâu cylch-cyfyng o’r ffrwgwd rhwng y tri a’r heddlu.

Cafodd y dyn cyntaf, Khuram Butt, ei saethu am oddeutu 10.16 y nos, ond cafodd y ddau arall eu saethu’n ddiweddarach ar ôl iddyn nhw redeg i ffwrdd.

Daeth cwest i farwolaethau’r wyth ddioddefwr i ben ddydd Gwener.

Y rhai a gafodd eu lladd oedd Xavier Thomas, 45; Chrissy Archibald, 30; Sara Zelenak, 21; James McMullan, 32; Kirsty Boden, 28; Alexandre Pigeard, 26; Sebastien Belanger, 36; ac Ignacio Echeverria, 39.